Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (145) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y naw cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddi adroddiad Jillings?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.28
3 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cymunedau Mwy Diogel i Bawb - Y wybodaeth ddiweddaraf am Bennod 7 o'r Rhaglen Lywodraethu - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig
5 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymateb i'r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru
Dechreuodd yr eitem am 14.41
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd o ran Datblygiad Rhaglenni Cyllid Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020 ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad “Cymru a'r UE: Partneriaeth ar gyfer Swyddi a Thwf”
Dechreuodd yr eitem am 15.29
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin
Dechreuodd yr eitem am 16.02
8 Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil o ystyried y cyfle a gafodd i wneud hynny, a fyddai wedi cynnwys;
a) pwyllgor yn craffu’n fanwl ar y Bil; a
b) cyfle i gael adroddiad pwyllgor manwl am y Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y Bil Brys wedi’i ddwyn gerbron y Cynulliad cyn bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun wedi cau, a chyn bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael i'w hystyried.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y byddai’r Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu isafswm cyflog heb gyfeirio’r mater at banel annibynnol o gwbl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y byddai panel cynghori a fyddai’n cael ei sefydlu o dan y Bil o dan ddisgresiwn Gweinidogion Cymru, a fyddai'n rheoli:
a) cyfansoddiad a thrafodion y panel;
b) penodi aelodau i’r panel;
c) pwerau cyffredinol y panel, a
d) ychwanegu, dileu neu ddiwygio swyddogaethau’r panel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi:
a) bod dibenion allweddol y Bil yn cynnwys swyddogaethau pennu cyflogau, a
b) nad yw cyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5289 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Cynnig i gymeradwyo penderfyniad ariannol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5290 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
10Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
NDM5287 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygiad i Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
NDM5286 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal - gohiriwyd
13Dadl: Y GIG yng Nghymru - Dysgu o Ymchwiliad Francis
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn diwedd mis Gorffennaf 2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell gymorth ddi-dâl ei hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a galluogi holl staff a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.
Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.
Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.
Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.46
Daeth y cyfarfod i ben am 18:51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2013